Dyddiad y digwyddiad:
18.06.25
Amser y digwyddiad:
10:00 - 12:00
Cost: Am ddim
Mae Esbonio ChatGPT yn weithdy addas i ddechreuwyr sy’n chwilfrydig am Ddeallusrwydd Artiffisial ond nad ydynt wedi gwneud fawr o ddefnydd ohono eto. P’un a ydych wedi agor ChatGPT unwaith ac yn ansicr beth i’w deipio, neu nad ydych erioed wedi rhoi cynnig arno, bydd y sesiwn hon yn eich arwain drwy’r ffordd mae’n gweithio a sut i’w ddefnyddio’n hyderus.
Wedi ei harwain gan Klaire Tanner (Hi/Nhw), mae’r sesiwn ymarferol hon yn cyflwyno beth all ChatGPT ei wneud, o ysgrifennu a chynllunio i drefnu a chynhyrchu syniadau - a sut i'w ddefnyddio’n gyfrifol, creadigol, ac yn effeithiol yn eich gwaith neu eich prosiectau.
Byddwn yn sôn am:
Beth yw ChatGPT, a’r hyn nad ydyw
Dulliau cyffredin lle y gall gefnogi eich gwaith neu lif gwaith
Sut i ofyn cwestiynau gwell i gael canlyniadau gwell
Prif ystyriaethau o ran moeseg, preifatrwydd, a defnydd diogel
Deilliannau: Byddwch yn gadael gyda gwell dealltwriaeth ynghylch sut i ddefnyddio ChatGPT, adnoddau ymarferol i ddechrau ei ddefnyddio yn bersonol, a syniadau am sut all AI gefnogi eich gwaith, ble bynnag yw eich man dechrau.
Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru
Archebwch nawr