Grant Twf Manwerthu, Gwasanaethau, Lletygarwch a Thwristiaeth
Caiff y Grant Twf Manwerthu, Gwasanaethau, Lletygarwch a Thwristiaeth ei ariannu drwy'r Gronfa Twf Lleol (LGF) ac fe'i gweinyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent fel rhan o gyfres ehangach o Gronfeydd Ysgogi'r Economi.
Mae'r Cynllun yn darparu buddsoddiad cyfalaf wedi'i dargedu i gefnogi busnesau sy'n gweithredu o fewn yr economi sylfaenol a'r economi ymwelwyr, gan helpu busnesau i wella cynhyrchiant, cystadleurwydd, cynaliadwyedd a gwydnwch hirdymor.
Pwy All Ymgeisio
Rhaid i Ymgeiswyr Cymwys:
- Fod wedi'u lleoli ym Mlaenau Gwent.
- Fod wrthi'n masnachu'n weithredol.
- Gweithredu ar sail amser llawn.
- Dangos hyfywedd ariannol.
- Dangos y gallu i gyflawni'r prosiect arfaethedig.
Sectorau Cymwys
Rhaid i fusnesau weithredu yn y sectorau Manwerthu, Gwasanaethau, Lletygarwch neu Dwristiaeth. Am wybodaeth fanylach, gweler y Nodiadau Cyfarwyddyd isod.
Cymerwch ein gwiriwr cymhwysedd cyflym YMA. Sicrhewch eich bod yn gallu ateb IE i bob cwestiwn cyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer y grant.
Lefel y Cymorth
|
Eitem |
Swm |
|
Grant Lleiaf |
£1,000 |
|
Grant Uchaf |
£25,000 |
|
Cyfradd Ymyrraeth |
Hyd at 50% |
Rhaid i ymgeiswyr ddarparu cyfraniad o leiaf 50% tuag at gostau cymwys y prosiect.
Dylai ceisiadau ganolbwyntio ar wariant cyfalaf sy'n cefnogi twf busnes, cynhyrchiant, cystadleurwydd, profiad cwsmeriaid a chanlyniadau cyflogaeth.
Mae rheolau cymhwysedd yn berthnasol – cliciwch ar y Nodiadau Cyfarwyddyd am fanylion llawn.
Nid yw busnesau sy'n gysylltiedig â gweithgareddau anghyfreithlon, hyrwyddo safbwyntiau crefyddol neu wleidyddol penodol, gamblo, unrhyw gynnwys o natur rywiol, unrhyw weithgareddau anghyfreithlon eraill, nac unrhyw fusnesau a ystyrir yn ddadleuol gan Lywodraeth Cymru, yn gymwys i gael cymorth.