Hwyluso Menter
Wedi’i hyfforddi gan Dr Ernesto Sirolli ei hun, mae Hwyluswyr Menter Blaenau Gwent – Callum, Ryan a Georgia – ar gael i gynnig cymorth busnes cyfrinachol, dan arweiniad y gymuned, i bob busnes newydd ac i fusnesau presennol yn Blaenau Gwent. I drefnu cyfarfod gyda’r Hwyluswyr Menter, anfonwch eich ymholiad a’ch manylion cyswllt i: Business@blaenau-gwent.gov.uk
Roedd Blaenau Gwent yn brosiect cyntaf Cymru i fabwysiadu’r model Sirolli Enterprise Facilitation®. Bwriad y prosiect oedd ategu’r gwasanaethau cymorth busnes a menter traddodiadol a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol a sefydliadau eraill megis Busnes Cymru.
I ddysgu mwy am Dr Sirolli a’r Hwyluso Menter, cliciwch YMA i wylio ei anerchiad TED enwog ‘Shut up and Listen’.
Sut gallwn ni helpu
Gall yr Hwyluswyr Menter gynnig amrywiaeth o opsiynau cymorth, gan gynnwys:
- Cymorth i gychwyn busnes
- Cymorth i dyfu
- Hwyluso cysylltiadau gyda phartneriaid megis Busnes Cymru
- Cefnogi chi i adeiladu tîm o’ch cwmpas ar gyfer eich busnes
Panel Adnoddau Gwirfoddolwyr
Fel rhan o’r prosiect Hwyluso Menter, mae Blaenau Gwent yn bwriadu sefydlu panel adnoddau gwirfoddolwyr sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol lleol sydd am roi rhywbeth yn ôl i fusnesau Blaenau Gwent. Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol lleol sydd am gyfrannu at gymuned fusnes Blaenau Gwent, cofrestrwch eich diddordeb YMA.
Cyfarfod â’ch Hwyluswyr Menter
Georgia Winter
Eich Hwylusydd Menter ar gyfer Glyn Ebwy
Mae Georgia yn cwmpasu’r ardaloedd canlynol: > De Glyn Ebwy > Gogledd Glyn Ebwy > Beaufort > Garnlydan > Badminton > Rassau > Cwm
Callum Lewis
Eich Hwylusydd Menter ar gyfer Tredegar
Mae Callum yn cwmpasu’r ardaloedd canlynol: >Sirhowy >Tredegar >Georgetown
Ryan Harvey
Eich Hwylusydd Menter ar gyfer Brynmawr a Abertillery
Mae Ryan yn cwmpasu’r ardaloedd canlynol: > Brynmawr > Nantyglo > Blaina > Cwmtillery > Abertillery > Six Bells > Aberbeeg > Brynithel > Llanhilleth > Swffryd