Commercial Properties within Blaenau Gwent
Mae gennym amrywiaeth o unedau diwydiannol a thir masnachol ledled Blaenau Gwent. Mae swyddfeydd o safon hefyd ar gael mewn lleoliadau amrywiol gan gynnwys canol trefi, ystadau diwydiannol, parciau busnes, ac o fewn cyfleusterau gweithleoedd a reolir. Mae Uned Datblygu Economaidd y Cyngor yn cynnal cronfa ddata gynhwysfawr o dir ac eiddo yn yr ardal, sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus a phreifat, ac yn gysylltiedig รข Hwb Busnes Blaenau Gwent.
Gallwch chwilio am safleoedd neu adeiladau sydd ar gael trwy adran eiddo Hwb.
Asiantau a Landlordiaid
Os oes gennych eiddo busnes neu dir masnachol i'w rentu neu ei werthu, gellir cynnwys eich manylion ar ein cronfa ddata eiddo trwy gofrestru ar Property Pilot Content Management System (PPCMS). Offeryn yw PPCMS sy'n galluogi asiantau eiddo masnachol i gyhoeddi gwybodaeth eiddo ar wefan Property Pilot a safleoedd rhestru eiddo eraill, gan gynnwys Hwb Busnes Blaenau Gwent. I lanlwytho neu ddiweddaru manylion eiddo i'r Hwb cliciwch yma i Fewngofnodi neu gofrestru.