Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?
Yn ôl i'r holl ddigwyddiadau

Cysylltu, Cydweithio, Arloesi: KTP@50

Cysylltu, Cydweithio, Arloesi: KTP@50

Dyddiad y digwyddiad: 09.06.25
Amser y digwyddiad: 09:30 - 11:00

Canolfan Gynadledda PDC Trefforest, Llantwit Road, Pontypridd, CF37 1DL

About this event
Event lasts 1 hour 30 minutes
Mae'r rhestriad hwn o Eventbrite ar gael yn Saesneg. This Eventbrite listing is available in English.


P’un ai eich bod yn wynebu her fusnes benodol, yn archwilio gweithgarwch ymchwil ac arloesi, yn llywio cyfleoedd cyllido, neu'n chwilfrydig am yr hyn y gall Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) ei wneud i'ch sefydliad, bydd ein digwyddiad sydd ar y gweill – gan ddathlu 50 mlynedd o KTPs – yn eich helpu i:

Ddysgu sut mae KTPs yn gweithio – a sut y gall eich busnes elwa
Ddarganfod straeon llwyddiant go iawn gan gwmnïau lleol
Gael cyngor arbenigol gan Gynghorydd KTP Cymru
Gysylltu ag arbenigwyr academaidd o PDC ar draws sawl disgyblaeth
Rwydweithio â busnesau tebyg a darpar gydweithredwyr


Mae KTP yn rhoi cyfle i’ch busnes gydweithio â graddedigion medrus iawn ac arbenigwyr academaidd, gan roi mynediad at atebion pwrpasol sy’n mynd i’r afael â’ch heriau arloesi a chynhyrchiant. Gyda chefnogaeth wedi’i chyllido ar gael, gall KTPs eich helpu i raddio eich syniadau, cyflymu twf, ac adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer llwyddiant tymor hir.


Mae BBaChau yng Nghymru’n elwa o gyfraniad cyllido uwch o 75% gan Lywodraeth Cymru tan fis Mawrth 2027 – felly does erioed wedi bod amser gwell i roi hwb i’ch busnes drwy gydweithio academaidd.


Rydym wedi casglu siaradwyr arbenigol i archwilio’r cymorth sydd ar gael, cyfleoedd cyllido, a straeon llwyddiant profedig, gan gynnwys:

Croeso a throsolwg o arbenigedd y Gyfadran gan yr Athro Sandra Esteves a Louise Pennell – Dirprwy Ddeoniaid, Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth, PDC
Cynghorydd KTP Innovate UK ar gyfer Cymru, Rob Rolley, ar beth sy’n gwneud KTP da
Darlithydd Cyfrifiadureg PDC, Dr Shiny Verghese, yn cyflwyno prosiect Trosglwyddo Gwybodaeth Cyflymedig llwyddiannus y Brifysgol gyda Pryor & Rickett Silviculture
Uwch Ymchwilydd mewn Cemeg Anorganig PDC, Dr Nildo Costa, yn trafod y broses ymgeisio KTP gyda Dragon RS Ltd
Sarah Jeremiah o Gyfnewidfa PDC ar y cymorth a’r cyllid sydd ar gael i ddechrau cydweithio â PDC


Dysgwch fwy am Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yma.


GDPR a Chaniatâd Data
Cedwir gwybodaeth a ddarperir gennych yn unol â’r GDPR, Deddf Diogelu Data 2018, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac ein Datganiad Preifatrwydd personol sydd ar gael ar ein gwefan. Rwy’n deall y bydd gwybodaeth am bresenoldeb yn cael ei rhannu â chydweithredwyr at ddibenion monitro a gwerthuso effaith yn unig.


Ynghylch Cyfnewidfa PDC
Cyfnewidfa PDC yw canolfan fusnes ac ymgysylltu Prifysgol De Cymru, wedi’i lleoli ar Gampws Casnewydd a Champws Trefforest. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau i greu cysylltiadau sy’n pontio’r byd academaidd a’r diwydiant.

Gallwch weld ein Datganiad Preifatrwydd yma a’n Hysbysiad Eventbrite yma.

Archebwch nawr

Mwy o'n digwyddiadau