
Dyddiad y digwyddiad:
07.10.25
Amser y digwyddiad:
09:00 - 12:00
Cost: Am ddim
Helpu Busnesau Cymreig i Gydweithredu i Ennill Rhagor o Gontractau Cyhoeddus
Mae’r canllaw Ceisiadau ar y Cyd (2012) wedi’i adnewyddu. Mae Busnes Cymru’n lansio rhaglen gymorth sydd wedi’i hariannu’n llawn i helpu Microfusnesau. BBaChau a Mentrau Gwirfoddol, Cymunedol a Chymdeithasol (MGCCh) ledled Cymru i ymuno a chystadlu am gontractau mwy, â gwerth uwch. Gall y rhain fod yn gyfleoedd sydd y tu hwnt i gyrraedd busnesau unigol, ond sy’n gyraeddadwy trwy weithio mewn partneriaeth.
Fel prynwr yn y sector cyhoeddus, mae gennych y pwer i wneud cydweithredu o’r math hwn yn bosib. Mae Deddf Caffael 2023 yn mandadu ar gyfer proses gaffael fwy cynhwysol a thryloyw. Microfusnesau a BBaChau a geir yn bennaf o fewn ein heconomi fusnes yng Nghymru. Caffael cyhoeddus yw’r ysgogiad strategol sy’n gallu helpu’r busnesau hyn i dyfu mewn modd mwy cynaliadwy. Trwy ddeall sut i ddylunio tendrau sy’n mynd ati i annog ceisiadau ar y cyd, gallwch agor y drws i gadwyni cyflenwi mwy cynhwysol, arloesol a gwydn, sy’n cyflenwi gwell canlyniadau ar gyfer eich sefydliad a’ch cymuned leol.
Bydd ein Dosbarthiadau Meistr rhyngweithiol ar-lein ynghylch gwneud Ceisiadau ar y Cyd yn rhoi dulliau ymarferol i chi, ynghyd â mewnwelediadau go iawn i’ch helpu i’w gwireddu. Cewch ddysgu sut i strwythuro’r broses gaffael mewn modd sy’n datgloi cryfderau ceisiadau ar y cyd. Byddwn hefyd yn amlinellu’r cymorth i fusnesau, sydd wedi’i ariannu’n llawn, y byddwn yn ei gynnig i gyflenwyr drwy gydol mis Hydref a Thachwedd.
Beth y Byddwch yn ei Ddysgu:
8 Cam Tuag at Geisiadau ar y Cyd Llwyddiannus – Safbwynt Prynwr
Byddwn yn eich arwain drwy’r 8 cam allweddol tuag at annog a chefnogi ceisiadau ar y cyd ymhlith cyflenwyr, gan amlygu pam maent yn fanteisiol i brynwyr, a sut i’w rhoi ar waith yn ymarferol:
- CAM 1: Pam annog cydweithredu?
- CAM 2: Pa wybodaeth sydd ei hangen arnom?
- CAM 3: Pwy ddylai cyflenwyr bartneru â nhw, a pham?
- CAM 4: Sicrhau adnoddau ar gyfer y bartneriaeth
- CAM 5: Sut ddylai’r bartneriaeth gael ei strwythuro?
- CAM 6: Sut fydd hyn yn ychwanegu gwerth ar gyfer prynwyr?
- CAM 7: Rheoli’r cyfnod ymadael
- CAM 8: Meistroli partneriaeth gynhwysfawr
Cewch hefyd wybod am enghreifftiau go iawn o gyd-fentrau sydd wedi cyflenwi gwell canlyniadau o ran caffael cyhoeddus, sy’n dangos sut y gall tendr sydd wedi’i ddylunio’n iawn ddatgloi manteision mawr i brynwyr a chyflenwyr.
Ymunwch â ni i helpu i lywio amgylchedd caffael ym mhle mae busnesau micro, BBaCh’au a MGCCh’au yn gallu gweithio gyda’i gilydd i ennill, a chyflenwi, contractau mwy, a gwell.
Pam Mae Ceisiadau ar y Cyd yn Bwysig i Brynwyr
Pan fydd cyflenwyr yn ymuno â’i gilydd, gallwch gael mynediad i:
- Mwy o gapasiti a galluedd i gyflenwi contractau cymhleth
- Gwasanaethau o ansawdd well drwy gyfuno sgiliau ac arbenigedd
- Llai o risg o ran cyflenwi o ganlyniad i rannu adnoddau
- Gallu ymgysylltu â marchnad ehangach a mwy o gyfranogiad gan ficrofusnesau, BBaCh’au a MGCCh
- Gwerth cymdeithasol ychwanegol drwy effaith gydweithredol o safbwynt cymunedol
- Cadwyn gyflenwi gryfach, fwy cynaliadwy yng Nghymru
Nid Busnes Cymru sy’n cyflwyno’r digwyddiad hwn ar ran Llywodraeth Cymru.
Archebwch nawr