
Dyddiad y digwyddiad:
13.10.25
Amser y digwyddiad:
10:00 - 11:30
Cost: Am ddim
Mae'r weminar hon yn edrych ar Gynnal Cydraddoldeb ac Urddas yn y gwaith, gyda’r nod o amlinellu sut y gall achosion o wahaniaethu godi, ynghyd ag amlinellu’r cyfrifoldebau sydd gan gyflogwyr.
Byddwn yn ymdrin â’r canlynol:
- Mae hyrwyddo cydraddoldeb ac urddas yn y gwaith yn hanfodol i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol a chynhwysol.
- Y ffyrdd y gall cyflogwyr gyflawni hyn drwy weithredu polisïau ac arferion sy’n sicrhau triniaeth deg, cyfleoedd cyfartal a pharch i’r holl weithwyr, waeth beth yw eu cefndir na’u priodoleddau.
- Byddwn yn edrych ar wahaniaethu yn y gweithle, beth sy’n creu gwahaniaethu, pryd y gall hyn ddigwydd a’r gwahanol fathau o Wahaniaethu. Bwlio ac Aflonyddu a’r gwahanol fathau, ynghyd â’r priodoleddau gwarchodedig a beth yw cyfrifoldebau a rhwymedigaethau eich cyflogwyr dan ddeddf Cydraddoldeb 2010.
- Mae’n bwysig meithrin diwylliant o amrywiaeth a chynhwysiant, lle gall pawb deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu. Gall rhaglenni hyfforddiant, ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a chyfathrebu rheolaidd helpu i atgyfnerthu’r gwerthoedd hyn a hyrwyddo amgylchedd gwaith lle mae gweithwyr yn teimlo cysylltiad a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.
- Byddwn hefyd yn ystyried arddulliau rheoli a ph’un a ydynt yn helpu neu’n rhwystro, yn gosod enghraifft dda, yn meithrin awyrgylch cynhwysol yn y gweithle ac yn darparu arweiniad cywir a chefnogaeth i ddatblygu gweithle cadarnhaol.
Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes.
Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Archebwch nawr