Dyddiad y digwyddiad:
03.03.26
Amser y digwyddiad:
09:30 - 12:30
Cost: Am ddim
Creu sylfaen ariannol gref ar gyfer eich cwmni cyfyngedig newydd.
Dyluniwyd y sesiwn hon ar gyfer entrepreneuriaid ar ddechrau eu taith fusnes, sef rhai sy’n awyddus i ddeall hanfodion rheoli cyllid eu cwmni cyfyngedig newydd ac sydd am wneud penderfyniadau gwybodus a hyderus. Byddwn yn edrych ar ddatganiadau ariannol, rhagolygon llif arian, a sut i baratoi ar gyfer ‘Troi Treth yn Ddigidol’ (MTD ar gyfer TAW/Treth Gorfforaethol).
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu:
- Sut i ddarllen a chreu cyfrif Elw a Cholled a Mantolen
- Technegau ar gyfer rhagfynegi llif arian yn gywir
- Deall rhwymedigaethau treth cwmnïau a chyfrifoldebau cyfarwyddwyr
- Dogfennau ariannol allweddol y dylai pob cwmni cyfyngedig eu cadw
- Beth mae 'Troi Treth yn Ddigidol' yn ei olygu ar gyfer cwmnïau cyfyngedig a sut i baratoi ar ei gyfer
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd gennych yr eglurder a'r sgiliau i reoli cyllid eich cwmni yn fwy effeithiol ac i sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau treth sy'n esblygu.
Cysylltwch â'n tîm ar 01656 868500 neu e-bostiwch ni ar startup@businesswales.org i sicrhau eich lle.
Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymr
Archebwch nawr