Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?
Yn ôl i'r holl ddigwyddiadau

Cwrdd â'r Buddsoddwyr

Cwrdd â'r Buddsoddwyr

Dyddiad y digwyddiad: 26.11.25
Amser y digwyddiad: 09:00 - 13:00

Goldworks, Mill Lane, Ebbw Vale, Blaenau Gwent, NP23 6GR

Crynodeb



Gall deall y gwahanol fathau o gyllid sydd ar gael - ac adnabod y dewis gorau ar gyfer eich busnes - fod yn heriol i BBaCh prysur.


Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i chi gwrdd â’r arbenigwyr a chael mewnwelediad i’r mathau amrywiol o gyllid sydd ar gael i gefnogi twf eich busnes. Mae’r cyflwynwyr yn cynrychioli cwmnïau buddsoddi gyda hanes profedig o helpu BBaCh i sicrhau’r buddsoddiad cywir i gyd-fynd â’u hanghenion unigol.


Wedi’i hanelu at benderfynwyr BBaCh sy’n chwilio am gyllid i dyfu eu busnes, mae’r sesiwn hon yn darparu cyfle gwerthfawr i gysylltu â gweithwyr proffesiynol a all wirioneddol gefnogi eich uchelgeisiau.


Mae’r digwyddiadau hyn bob amser yn boblogaidd iawn, felly yn anffodus, bydd presenoldeb yn cael ei gyfyngu i un person o bob cwmni.


Beth fydd cynnwys y cwrs?


Mewnwelediad i’r mathau amrywiol o gyllid sydd ar gael i gefnogi twf busnes.


Cyfle i ofyn cwestiynau yn ymwneud â phob math o opsiynau cyllid i weithwyr cyllid proffesiynol.




Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?



Wedi’i anelu at benderfynwyr BBaCh sy’n chwilio am gyllid i dyfu eu busnes


Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes.

 


Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.


Archebwch nawr

Mwy o'n digwyddiadau