
Dyddiad y digwyddiad:
08.10.25
Amser y digwyddiad:
10:00 - 11:00
Cost: Am ddim
Ydych chi'n ystyried cymryd prentis, ond ddim yn siwr beth mae'n ei olygu i chi fel cyflogwr?
Bydd y gweithdy hwn yn eich helpu i baratoi ar gyfer y rhai sy’n gadael yr ysgol sy’n chwilio am leoliad prentisiaeth.
Yn y sesiwn hon byddwch yn dysgu am y manteision y gallwch eu hennill o gyflogi prentis a'r gwobrau y gall hyn eu cynnig i'ch busnes.
Byddwch yn dod i ddeall sut y gallwch uwchsgilio eich gweithwyr presennol a datblygu gweithlu aml-sgil.
Byddwn yn rhannu gyda chi beth sydd angen i chi ei wneud i gymryd y camau nesaf i gyflogi prentis, ynghyd â throsolwg o’r hyn i’w ddisgwyl a pham mai dewis prentis yw’r cam nesaf cywir i’ch busnes.
Mae'r gweithdy wedi'i anelu at BBaChau sy'n ystyried neu'n gobeithio cymryd prentis ac sydd angen mwy o wybodaeth i gefnogi eu penderfyniad.
Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes.
Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.