Dyddiad y digwyddiad:
01.04.26
Amser y digwyddiad:
10:00 - 12:00
Cost: Am ddim
Mae’r sesiwn 2 awr hon wedi ei dylunio i sylfaenwyr sy’n dymuno dechrau busnes gyda thîm cadarn. Byddwn yn trafod y prif 10 Awgrym AD ar gyfer twf effeithiol, o adnabod yr amser cywir i gyflogi, diffinio rolau, a denu talent, i gynefino, hanfodion cyfreithiol, meithrin diwylliant, ac osgoi rhwystrau cyffredin. Yn llawn cyngor ymarferol, enghreifftiau o'r byd go iawn a chwestiynau ac atebion, byddwch yn gadael gyda fframwaith clir i wneud penderfyniadau hyderus a gwybodus ynghylch ehangu eich tîm a chefnogi cam nesaf eich busnes.
Bio’r Cyflwynydd
Gyda chraffter busnes cryf a gweledigaeth strategol, mae gan Leah ddull cyfannol 'gallaf wneud' i'w gwaith. Mae cefndir Leah mewn AD a Dysgu a Datblygu, gyda thros 20 mlynedd o brofiad yn y maes hwn. Mae hi wedi gweld gyda'i llygaid i hun yr effaith y gall system AD a Dysgu a Datblygu gadarn ei chael ar gynhyrchiant, cymhelliant, cadw a thwf busnes gweithwyr.
Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Archebwch nawr