
Dyddiad y digwyddiad:
10.10.25
Amser y digwyddiad:
10:00 - 11:30
Cost: Am ddim
Mae’r weminar hon yn edrych ar Fodel Cymdeithasol Anabledd. Mae'r Model Cymdeithasol Anabledd yn ein hannog i ymchwilio i anabledd, nid yn unig fel amhariad ar yr unigolyn ond fel cynnyrch strwythurau, agweddau ac arferion cymdeithasol.
Byddwn yn mynd i'r afael â’r canlynol: -
- Y gwahaniaeth rhwng y model meddygol a’r model cymdeithasol anabledd.
- Defnydd o iaith addas i’w defnyddio wrth drafod pobl anabl.
- Sut y gallwch gefnogi staff, cydweithwyr, cwsmeriaid a chleientiaid anabl.
- Addasiadau rhesymol, beth ydynt, sut y gellir eu gweithredu a’u buddion posibl, nid yn unig i’r unigolyn ond hefyd i’ch busnes.
- Sut i sicrhau bod eich proses recriwtio yn gwbl gynhwysol.
Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes.
Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.