Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?
Yn ôl i'r holl ddigwyddiadau

Merched i Fusnes - Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2026

Merched i Fusnes - Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2026

Dyddiad y digwyddiad: 10.03.26
Amser y digwyddiad: 10:00 - 12:00

Cost: Am ddim


Galw ar ferched Cymru!


Cymerwch y camau cyntaf tuag at ddechrau busnes ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod.


Ymunwch â Syniadau Mawr Cymru ar gyfer gweithdy cyffrous a gynhelir ledled Cymru, a gyflwynir ym Mangor, Y Drenewydd a Blaenau Gwent, gyda ffrwd fyw yn cysylltu pob lleoliad.


Clywch gan entrepreneuriaid llwyddiannus, gan gynnwys Saadia Abubaker ac Alice Marie, wrth iddynt rannu eu teithiau, yr heriau a wynebwyd, a chyngor gwerthfawr ar ddechrau busnes. Bydd Cynghorydd Busnes hefyd yn bresennol i drafod y gefnogaeth sydd ar gael i chi.


Os oes gennych syniad bras neu eich bod yn barod i ddechrau, bydd y sesiwn hon yn rhoi’r hyder, yr ysbrydoliaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen i gychwyn yn gryf.


Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Archebwch nawr

Mwy o'n digwyddiadau