Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?
Yn ôl i'r holl ddigwyddiadau

Contractau cyflogaeth

Dyddiad y digwyddiad: 17.06.25
Amser y digwyddiad: 10:00 - 11:00

Cost: Am ddim



Mae’r weminar hon yn canolbwyntio ar gontractau cyflogaeth a beth yw eich goblygiadau cyfreithiol fel cyflogwr. P’un a ydych yn recriwtio eich gweithiwr cyntaf neu’n awyddus i ddiweddaru contractau cyfredol, bydd y sesiwn yn rhoi canllawiau ymarferol clir i’ch helpu i gydymffurfio a diogelu eich busnes.


Byddwn yn mynd i’r afael â’r elfennau allweddol y dylai pob contract ei gynnwys, newidiadau diweddar mewn cyfraith cyflogaeth a maglau cyffredin i’w hosgoi. Byddwch hefyd yn cael mewnwelediadau i arferion gorau ar gyfer drafftio a chyhoeddi contractau, deall hawliau gweithwyr ac ymdrin â newidiadau cytundebol.


Mae'r sesiwn hon yn ddelfrydol ar gyfer perchnogion busnes bach, rheolwyr a gweithwyr AD proffesiynol sydd eisiau sicrhau bod eu harferion cyflogaeth yn gadarn yn gyfreithiol ac yn addas at y diben yn y gweithle heddiw.




Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.


Archebwch nawr

Mwy o'n digwyddiadau