Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?
Yn ôl i'r holl ddigwyddiadau

Creu'r Cyflwyniad Perffaith: Gwnewch, Osgowch a Mewnwelediadau Buddsoddwyr

Creu'r Cyflwyniad Perffaith: Gwnewch, Osgowch a Mewnwelediadau Buddsoddwyr

Dyddiad y digwyddiad: 17.12.25
Amser y digwyddiad: 10:00 - 12:00

Cost: Am ddim


Nid syniad da yw'r unig beth sydd ei angen i sicrhau buddsoddiad - yn ogystal, mae’n ymwneud â rhoi cyflwyniad sy’n hoelio ac yn cynnal sylw.  Bydd y sesiwn hon yn rhannu awgrymiadau ardderchog, pethau i'w gwneud ac i’w hosgoi, a mewnwelediad o’r byd go iawn o ran sut i gyflwyno’n eglur ac yn hyderus. Byddwn yn edrych ar sut i strwythuro eich stori, beth mae buddsoddwyr yn rhoi sylw iddo, a sut i osgoi maglau cyffredin. P'un a yw cyflwyno’n newydd i chi, neu eich bod yn awyddus i fireinio eich darpariaeth, byddwch yn gadael gyda chyngor ymarferol i wneud i'ch cyflwyniad serennu am yr holl resymau cywir.

Bydd y sesiwn ymarferol yn cynnwys:

•    Sut i strwythuro cyflwyniad clir a difyr

•    Y prif bethau mae buddsoddwyr yn chwilio amdanynt

•    Camgymeriadau cyffredin wrth gyflwyno - a sut i'w hosgoi

•    Cynghorion i feithrin hyder a phresenoldeb yn yr ystafell (neu ar sgrîn)

•    Sut i addasu eich cyflwyniad ar gyfer

gwahanol fathau o fuddsoddwyr

•    Beth i'w wneud ar ôl y cyflwyniad i gynnal momentwm


Mae Anna Roberts yn Syrfëwr Siartredig sydd wedi troi’n sylfaenydd technoleg, ac yn grëwr SelfStorageBooker.com — sy’n helpu pobl ledled y genedl i ddod o hyd i le storio a’i archebu’n gyflym. Gyda thros ugain mlynedd o brofiad o adeiladu a chynghori busnesau, mae hi wedi cyflwyno busnesau, wedi codi buddsoddiad, wedi goroesi’r darnau heriol, ac erbyn hyn mae hi’n gwybod sut i droi geiriau buddsoddwyr yn gamau yn y byd go iawn. Disgwyliwch gynghorion ymarferol, straeon gonest a dim lol - sesiwn ddelfrydol i’ch paratoi i fynd at fuddsoddwyr yn hyderus.


Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru

Archebwch nawr

Mwy o'n digwyddiadau