
Dyddiad y digwyddiad:
03.09.25
Amser y digwyddiad:
10:00 - 11:30
Cost: Am ddim
Mae’r weminar hon yn edrych ar Niwroamrywiaeth yn y gweithle, enghreifftiau o niwrowahaniaeth, sut i gefnogi gweithlu amrywiol ynghyd â hyrwyddo amrywiaeth yn ei holl ffurfiau.
Byddwn yn ymdrin â’r canlynol:
- Gwahanol enghreifftiau o niwroamrywiaeth, gan ganolbwyntio ar fuddion ynghylch Arloesedd, Creadigrwydd, Amrywiaeth barn, manteision cystadleuol a datgloi potensial.
- Sut i gefnogi gweithwyr niwrowahanol, bod yn gyflogwr cyfrifol, gwneud addasiadau i'r gweithle ac addasiadau rhesymol, technolegau cynorthwyol a bod yn gyflogwyr moesegol.
- Recriwtio gweithwyr niwrowahanol, y broses recriwtio, cyfnod sefydlu a rheoli tîm, gweithredu polisïau digonol ac edrych ar y cynllun Hyderus o ran Anabledd.
Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes.