
Dyddiad y digwyddiad:
13.08.25
Amser y digwyddiad:
10:00 - 11:00
Cost: Am ddim
Bwriad y weminar yw eich helpu gyda’ch taith Hyderus o ran Anabledd ac amlinellu’r cymorth sydd ar gael i’ch busnes.
Beth fydd cynnwys y digwyddiad?
Mae’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd yn fenter gan lywodraeth y DU sy’n hyrwyddo gweithle cynhwysol.
Drwy ymuno â’r cynllun Hyderus o ran Anabledd, byddwch yn cael logo adnabyddus a thystysgrif glodfawr yn ogystal â bod yn rhan o fudiad sy’n eirioli dros gynwysoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle.
Mae budd i’r gymuned a gwerth cymdeithasol yn flaenoriaeth yn y broses dendro, bydd angen i chi ddangos eich bod yn rhoi’n ôl i’r gymuned.
Bydd mynychu’r weminar hon yn rhoi digonedd o syniadau i chi ynghylch gweithio gyda phobl anabl yn eich cymuned, p’un a yw hynny drwy gynnig profiad gwaith neu gyfleoedd am swydd.
Bydd sesiwn cwestiwn ac ateb hefyd a chyfleoedd rhwydweithio ar-lein.
Ar gyfer pwy mae'r gweithdy yma?
Gall dangos ymroddiad wella eich ceisiadau tendro, drwy gymryd rhan mewn cynllun a gydnabyddir yn genedlaethol.
Fel cyflogwr, credwn y byddai eich sefydliad yn ychwanegiad ardderchog i’r digwyddiad.
Bydd eich cyfranogiad yn helpu i arddangos diwylliant a gweledigaeth eich cwmni.
Archebwch eich lle heddiw!
Pwysig - BBaCh o Gymru. Uchafswm o 2 gynrychiolydd fesul busnes - yn amodol ar Gofrestru'n Llwyddiannus â Busnes Cymru.
Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Archebwch nawr