Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?
Yn ôl i'r holl ddigwyddiadau

Gweminar Cyfrifoldeb Cymdeithasol

Gweminar Cyfrifoldeb Cymdeithasol

Dyddiad y digwyddiad: 05.09.25
Amser y digwyddiad: 10:00 - 11:30

Cost: Am ddim


Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes 


Crynodeb


Mae’r weminar hon yn ymdrin â bod yn fusnes cyfrifol, sy’n targedu’r safonau uchaf o ymarfer busnes moesegol gyda phawb sy’n ymwneud â chi, gan gynnwys gweithwyr, cwsmeriaid a chyflenwyr.


Byddwn yn ymdrin â’r canlynol:


Bod yn gyflogwr moesegol sy’n defnyddio strategaeth sy’n anelu at ddenu, dal sylw a chyflogi unigolion o gefndiroedd amrywiol, gan sicrhau bod y broses recriwtio yn deg, yn hygyrch ac yn ddiduedd.


Sicrhau bod pob maes o’ch busnes yn gweithredu mewn amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol i weithwyr, ymwelwyr a chontractwyr.


Canolbwyntio ar ymgysylltiad rhanddeiliaid i feithrin cysylltiadau cymunedol a busnes.


Mae buddion cymunedol a gwerth cymdeithasol yn uchel ar yr agenda ar gyfer busnesau lleol, gan roi’n ôl i’r gymuned. Gwella enw da eich busnes a’ch gwneud yn gyflogwr delfrydol.


Marchnata a hyrwyddo eich llwyddiannau CSR fel busnes yng Nghymru, gan roi mantais gystadleuol i chi.


Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes.

Archebwch nawr

Mwy o'n digwyddiadau