Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?
Yn ôl i'r holl ddigwyddiadau

Gweminar Rheoli Absenoldeb Salwch

Dyddiad y digwyddiad: 11.06.25
Amser y digwyddiad: 10:30 - 11:30

Ymunwch â Gweminar Cymru Iach ar Waith (CIW) Am Ddim: Rheoli Absenoldeb Salwch (MSA) ar gyfer Cyflogwyr – Yn ôl oherwydd Galw Mawr!



Yn dilyn diddordeb mawr a’r adborth cadarnhaol a gafwyd yn dilyn ein sesiwn flaenorol, mae Cymru Iach ar Waith yn falch o gynnig ail gyfle i ymuno â’n gweminar am ddim: Gweminar Rheoli Absenoldeb Salwch (MSA) i Gyflogwyr.



Wrth i anghenion gweithwyr esblygu a chostau sefydliadol barhau i godi, mae bod â strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli absenoldeb oherwydd salwch yn bwysicach nag erioed.



Bydd y sesiwn ymarferol hon a gyflwynir gan Gynghorwyr CIW, yn rhoi cipolwg hanfodol i’ch helpu i wella llesiant yn y gweithle a lleihau absenoldeb.



Dydd Mercher 11 Mehefin 2025

Amser: 10:30 – 11:30

Platfform: Microsoft Teams

Gallwch gymryd rhan am ddim.



Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Tueddiadau o ran absenoldeb oherwydd salwch yng Nghymru a’r DU

Sut mae cael gweithwyr i ymwneud â dulliau ataliol mewn perthynas ag iechyd

Mewnwelediadau gan Cartrefi Melin (Hedyn) ar reoli absenoldeb salwch yn effeithiol

Sut mae cael gafael ar adnoddau gan gynnwys pecyn e-ddysgu am ddim ar reoli absenoldeb oherwydd salwch.

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gael mynediad at ganllawiau arbenigol ac offer ymarferol i gefnogi eich sefydliad—yn rhad ac am ddim.



Siaradwyr

Nikki Davies, Cynghorydd Iechyd yn y Gweithle

Deanna Hughes, Cynghorydd Iechyd yn y Gweithle

Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â: iechydynygweithle@wales.nhs.uk.



Cofrestrwch erbyn dydd Mercher 4 Mehefin.

Archebwch nawr

Mwy o'n digwyddiadau