Dyddiad y digwyddiad:
30.06.26
Amser y digwyddiad:
12:30 - 14:00
Dysgwch sut i droi eich mabwysiadu cynnar o AI yn lliant hirdymor. Mae’r weminar ymarferol hon wedi’i chynllunio ar gyfer BBaChau Cymru sydd eisoes yn defnyddio AI ac sydd am wneud y mwyaf o’i heffaith a datblygu dulliau cynaliadwy sy’n cyflawni canlyniadau go iawn.
Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â sut i adeiladu llif gwaith AI cynaliadwy, mesur enillion gwirioneddol ar fuddsoddiad (ROI), cadw eich tîm yn ymgysylltiedig, a chynllunio eich map ffordd AI 12 mis.
Bydd y weminar yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â Digilyse.
Beth fydd cynnwys y cwrs?
(1) Pam mae mabwysiadu AI yn arafu ar ol ychydig fisoedd - a’r arferion sy’n gwneud iddo weithio.
(2) Adeiladu llif gwaith AI cynaliadwy sy’n arbed amser go iawn yn eich busnes.
(3) Mesur ROI AI - sut i wybod a yw eich offer yn gweithio.
(4) Cadw eich tim i fynd gydag AI yn hirdymor - diwylliant, hyder, a rheoli newid.
(5) Cynllunio eich map ffordd AI 12 mis - cymorth a chamau nesaf drwy Busnes Cymru.
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?
Perchnogion a rheolwyr BBaChau Cymru sydd eisoes wedi dechrau arbrofi ag offer AI ac yn dymuno canllawiau ymarferol ar wneud mabwysiadu yn gynaliadwy, yn fesuradwy ac yn barhaol. Nid oes angen cefndir technegol uwch.
BBaCh o Gymru. Uchafswm o 2 gynrychiolydd fesul busnes - yn amodol ar Gofrestru'n Llwyddiannus â Busnes Cymru.
Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.