Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?
Yn ôl i'r holl ddigwyddiadau

DA Ymarferol i Fusnesau Bach a Chanolig Cymru - Gwefanar Mabwysiadu DA (AI)

DA Ymarferol i Fusnesau Bach a Chanolig Cymru - Gwefanar Mabwysiadu DA (AI)

Dyddiad y digwyddiad: 25.06.26
Amser y digwyddiad: 12:30 - 14:00

Crynodeb Dysgwch sut i gymryd eich camau hyderus cyntaf gydag DA.



Mae'r weminar ymarferol hon wedi'i chynllunio ar gyfer BBaChau Cymru sydd yn chwilfrydig am DA ond heb fod yn siwr ble i ddechrau, ac am ddechrau ei roi ar waith yn eu busnes.



Mae'r sesiwn hon yn ymdrin â'r offer DA gorau sydd ar gael am ddim ac am gost isel, enghreifftiau busnes go iawn, a sut i fabwysiadu DA yn ddiogel ac yn foesegol.



Bydd y weminar yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth ag Evolvity.



Caiff y digwyddiad hwn ei ddarparu gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.



Beth fydd cynnwys y cwrs?



(1) Dechrau gydag AI - y camau ymarferol cyntaf ar gyfer eich busnes.



(2) Yr offer AI gorau am ddim ac am bris isel i BBaChau Cymru ar hyn o bryd.



(3) Enghreifftiau go iawn - sut mae busnesau yn arbed amser gydag AI heddiw.



(4) Aros yn ddiogel - preifatrwydd data, diogelwch, a mabwysiadu AI moesegol.



(5) Camau nesaf: cymorth AI parhaus drwy Busnes Cymru.



Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?



Perchnogion BBaChau Cymru, rheolwyr, a masnachwyr unigol sy'n chwilfrydig am DA ond heb fod yn siwr ble i ddechrau. 



Nid oes angen cefndir technegol - dewch â'ch heriau busnes a pharodrwydd i archwilio.



Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru ac mae'n gyfyngedig i ddau gynrychiolydd fesul busnes.



Caiff y digwyddiad hwn ei ddarparu gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Archebwch nawr

Mwy o'n digwyddiadau