Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?
Yn ôl i'r holl ddigwyddiadau

Rheoli Eich Cyllid a'ch Treth ar gyfer Cwmnïau Cyfyngedig

Rheoli Eich Cyllid a'ch Treth ar gyfer Cwmnïau Cyfyngedig

Dyddiad y digwyddiad: 03.03.26
Amser y digwyddiad: 09:30 - 12:30

Cost: Am ddim


Creu sylfaen ariannol gref ar gyfer eich cwmni cyfyngedig newydd.


Dyluniwyd y sesiwn hon ar gyfer entrepreneuriaid ar ddechrau eu taith fusnes, sef rhai sy’n awyddus i ddeall hanfodion rheoli cyllid eu cwmni cyfyngedig newydd ac sydd am wneud penderfyniadau gwybodus a hyderus. Byddwn yn edrych ar ddatganiadau ariannol, rhagolygon llif arian, a sut i baratoi ar gyfer ‘Troi Treth yn Ddigidol’ (MTD ar gyfer TAW/Treth Gorfforaethol).                                                  


Beth fyddwch chi'n ei ddysgu:



  • Sut i ddarllen a chreu cyfrif Elw a Cholled a Mantolen

  • Technegau ar gyfer rhagfynegi llif arian yn gywir

  • Deall rhwymedigaethau treth cwmnïau a chyfrifoldebau cyfarwyddwyr

  • Dogfennau ariannol allweddol y dylai pob cwmni cyfyngedig eu cadw

  • Beth mae 'Troi Treth yn Ddigidol' yn ei olygu ar gyfer cwmnïau cyfyngedig a sut i baratoi ar ei gyfer


Erbyn diwedd y sesiwn, bydd gennych yr eglurder a'r sgiliau i reoli cyllid eich cwmni yn fwy effeithiol ac i sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau treth sy'n esblygu.


Cysylltwch â'n tîm ar 01656 868500 neu e-bostiwch ni ar startup@businesswales.org i sicrhau eich lle.


Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymr

Archebwch nawr

Mwy o'n digwyddiadau