Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?
Yn ôl at yr holl newyddion

Glasbrint ar gyfer Twf - gweithio ar ddyfodol gwell

Beth yw Glasbrint ar gyfer Twf 'Ffynnu ar gyfer Twf'?

Mae twf economaidd yn flaenoriaeth genedlaethol, ac mae Blaenau Gwent a Thorfaen yn barod i chwarae eu rhan wrth ddarparu dyfodol mwy sefydlog, ffyniannus a gwyrddach. Mae helpu pobl i gael mynediad at gyflogaeth deg a chreu lleoedd iach a chynaliadwy yn amcanion allweddol i'r ddau gyngor

Fel ardal sydd newydd ffedereiddio, mae Blaenau Gwent a Thorfaen yn barod i gymryd y cam nesaf yn eu taith twf gyda'i gilydd.

Mae'r ddwy ardal yn cytuno bod rhaid i dwf economaidd fod yn gynhwysol, yn deg ac wedi ei ffurfio gan y ddwy gymuned fel rhan o "Fargen" ehangach rhwng y ddau gyngor a'r cymunedau.

Ffynnu Gyda'n Gilydd yw enw'r Glasbrint drafft ar gyfer Twf Cynhwysol a Chynaliadwy. Mae'n cyflwyno’r weledigaeth, y themâu a'r egwyddorion a ddylai lywio gwaith y ddau gyngor.

Pam fod hyn yn bwysig...

Bydd y Glasbrint ar gyfer Twf yn cyflwyno gwaith y dyfodol y bydd cynghorau Blaenau Gwent a Thorfaen yn canolbwyntio arno i gefnogi twf economaidd. Y bwriad yw bod hyn, yn ei dro, o fudd i gymunedau, yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i drigolion yn y dyfodol.

Sut y gallwch chi helpu

Ar hyn o bryd mae'r cynllun ar ffurf drafft, mae'n waith sy’n parhau.
Felly, hoffem i chi wneud y canlynol os gwelwch yn dda:

1. Darllenwch y ddogfen ddrafft Glasbrint ar gyfer Twf

THEN

2. Cwblhewch y ffurflen adborth fer isod i rannu eich profiadau o gylch swyddi, hyfforddiant, cyfleoedd a ble’r ydych chi’n byw.

NEU...

3. Ychwanegwch eich sylwadau i’r Bwrdd Syniadau isod o dan y tab Ychwanegwch Eich Sylw.

Dyna fe. Wedyn byddwn yn cymryd eich adborth ac yn ei ddefnyddio i lunio'r ddogfen ddrafft ymhellach fel bod ganddi'r cyfle gorau i wneud gwahaniaeth wrth i ni symud ymlaen.

Rhannwch eich barn drwy lenwi'r ffurflen isod, sydd ar agor o ddydd Llun 11 Mai tan hanner nos ddydd Mawrth 30 Mehefin, 2026.