Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?
Yn ôl at yr holl newyddion

Gyrru Twf, Cynhwysiant a Buddsoddiad ar Gyfer Busnesau

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad deinamig a chynhwysol sy’n cefnogi twf BBaCh, drwy gydnabod a goresgyn rhwystrau amrywiol.  

 

Cyflwynir gan dîm Busnes Cymru a’n siaradwyr gwadd, gan roi’r offer i’ch busnes i gynyddu cynhyrchiant, manteision o ran Arloesi i ddatgloi eich potensial i dyfu, a chymryd camau i sicrhau bod cefnogaeth gynhwysol yn cael ei dathlu.  

Beth fydd cynnwys y cwrs?

Byddwch yn barod i Fuddsoddi - Gweithdy ymarferol wedi’i lunio i rymuso ac arfogi perchnogion busnesau lleiafrifoedd ethnig gyda’r offer, y mewnwelediadau a’r hyder i fod yn barod i fuddsoddi a graddio eu busnes.

Ysbrydoli Twf - Creu Ap Busnes sy’n cael ei ysgogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial ar gyfer cynhwysiant, cydymffurfiaeth a diwylliant sy’n cael eu mesur ar unwaith.

Goresgyn heriau - Gwrandewch ar entrepreneur benywaidd lleiafrifoedd ethnig wrth iddynt rannu eu taith i lansio busnes, llwybr a wynebodd heriau, gwytnwch a llwyddiant.

Ychwanegu Gwerth Cymdeithasol - Mae ein cynghorwyr arbenigol Datgarboneiddio, AD a Chyflogaeth Pobl Anabl yma i’ch cefnogi wrth gyflwyno addewidion Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb, gan helpu’ch busnes i fod yn gynaliadwy, hybu gwerth cymdeithasol a thyfu’n gyfrifol

Y Gymraeg ym myd busnes – Bydd Rebecca Hayes yn tynnu eich sylw at sut all yr iaith gyfnerthu eich brand, agor y drws at gwsmeriaid newydd a chyfleoedd yn y cyfryngau, a’ch helpu chi i serennu ymhlith eich cystadleuwyr.

 

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?

Unrhyw fusnesau bach a chanolig neu ficrofusnes sydd a diddordeb ennill lle ar y fframwaith yma.

Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes.

Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru