Mewngofnodi
Wedi anghofio cyfrinair?
Yn ôl at yr holl newyddion

Mae The Drop Zone Golf yn Dathlu Ei Ben-blwydd Cyntaf

Bydd The Drop Zone Golf yn dathlu eu pen-blwydd cyntaf ym mis Tachwedd, gan nodi blwyddyn lwyddiannus o ddarparu efelychwyr golff blaengar i golffwyr o bob lefel eu mwynhau. Yn ogystal â’r efelychwyr golff, mae The Drop Zone hefyd yn cynnig siop golff lawn, gweithdy addasu, atgyweirio a gwasanaethu clwb, bar chwaraeon a dartiau rhyngweithiol i bawb eu mwynhau.


I ddathlu eu pen-blwydd sydd ar ddod, maent yn cynnal Diwrnod Agored arbennig ar 29 Tachwedd o 10am tan yn hwyr – cyfle i bawb ddod draw, profi’r efelychwyr o’r radd flaenaf, a gweld pam mae The Drop Zone Golf yn ffefryn lleol. P’un a ydych yn brofiadol neu’n chwilfrydig, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu!
Cafodd The Drop Zone Golf ei gefnogi gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor Blaenau Gwent, a ddarparodd gymorth cychwyn, gan gynnwys Grant Datblygu Busnes a chyfarwyddyd drwy’r rhaglen Hwyluso Mentergarwch.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Economi a’r Lle, y Cynghorydd John Morgan:
“Mae The Drop Zone Golf yn llwyddiant mawr yn Nhredegar/Blaenau Gwent. Mae’n darparu cyfleuster ardderchog i golffwyr difrifol ac yn cynnig hwyl i’r teulu cyfan drwy’r gweithgareddau sydd ar gael. Llongyfarchiadau ar flwyddyn gyntaf wych a phob lwc ar gyfer y dyfodol.”


Dywedodd un o sylfaenwyr The Drop Zone Golf, Gareth James:
“Wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd cyntaf, rydym yn hynod falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni ac yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi’n cefnogi ar hyd y ffordd. O ergydion bythgofiadwy i chwerthin a rennir, mae eich cefnogaeth wedi gwneud The Drop Zone Golf yn ganolfan fywiog i gariadon golff a newydd-ddyfodiaid fel ei gilydd.


Dyma i lawer mwy o flynyddoedd o golff gwych a chwmni gwych!”