
16/06/2025
Beth yw'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg?
Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu busnesau ledled Cymru i feithrin gweithlu cryfach a mwy medrus.
Gall cyflogwyr wneud cais am gyllid i dalu hyd at 50% o'r costau hyfforddi achrededig, a gall bob cais ofyn am hyd at £50,000.
P'un a ydych chi'n bwriadu llenwi bylchau sgiliau, cadw staff, neu ddenu talent newydd, gall y Rhaglen Sgiliau Hyblyg eich helpu i fuddsoddi yn nyfodol eich tîm.
Pwy sy'n gymwys:
Mae cyllid ar gael i gyflogwyr mewn unrhyw ddiwydiant ledled Cymru.
Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i'ch busnes fod wedi'i leoli yng Nghymru, rhaid iddo fod yn ddiddyled, a rhaid i chi ymrwymo i ryddhau staff i gwblhau'r hyfforddiant dan sylw erbyn diwedd mis Mawrth 2026.
Rhaid i bob elfen o'r hyfforddiant wella gallu neu gapasiti’r busnes.
Dalier sylw: Rhoddir y cyllid yn ôl disgresiwn a chan Lywodraeth Cymru fydd y penderfyniad terfynol ynghylch cymhwysedd.
Sut i wneud cais
Mae gwneud cais yn syml. Dyma ganllawiau cam wrth gam ar sut i wneud hynny.
- Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb: Gall busnesau gyflwyno ffurflen gychwynnol ar wefan Busnes Cymru, gyda'r opsiwn o gymorth gan Reolwr Perthynas. Cwblhewch y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb heddiw.
- Gwirio Cymhwystra Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r Datganiad o Ddiddordeb i sicrhau bod y busnes yn bodloni'r meini prawf.
- Cyflwyno cais Os yw'n gais cymwys, gwahoddir busnesau i gyflwyno ffurflen gais fanwl.
- Cymeradwyaeth a Chyllid: Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyllid ac yn dechrau'r rhaglenni hyfforddi. Bydd penderfyniadau fel arfer yn cael eu gwneud o fewn 10 diwrnod gwaith.
Dalier Sylw: Nid yw cwblhau Datganiad o Ddiddordeb yn sicrhau cyllid. Mae pob cais yn cael ei brofi ar sail y meini prawf cymhwysedd a'r arian sydd ar gael. Os nad ydych chi'n gymwys, byddwn yn eich cysylltu â chi i drafod opsiynau cymorth eraill.
Y Camau Nesaf a Datganiad o Ddiddordeb
Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am y cyllid hwn, cwblhewch y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb a bydd aelod o'n tîm Sgiliau yn ymateb cyn gynted â phosibl ac o fewn 10 diwrnod gwaith.